Fel aelod o’r cor ers y dechreuad yn 1995, ac fel llywydd ers 2010, medraf ddweud yn onest fod bod yn perthyn i’r cor yn anrhydedd.
‘Rwyf wedi gweld tyfiant y cor dros y blynyddoedd. I gychwyn, ‘roedd mwyafrir yr aelodaeth yn Gymry, neu o dras Cymraeg, yn gwisgo crysau gwyn a theis cochion. Erbyn hyn, mae gennym tri gwisg sydd yn newid gyda’r achlysur.
Er fod Cymraeg yn dal i fod yn bwysig, ‘rydym yn canu mewn amryw iaith, e.e. Lladin, Ffrangeg, Eidaleg, Ukraineg, Africaans ac wrth gwrs Saesneg.
Mae ein rhestr o ganeuon yn cynnwys caneuon gwerin, opera, caneuon traddodiadol o Ganada, pop ac yn y blaen.Mae’r dynion yn canu heb nodiant yn nhraddodiad corau meibion o Gymru.
Mae cynilleidfaoedd o Ontario, Alberta, B.C.,Newfoundland, Nova Scotia, P.E.I., Efrog Newydd a Phrydain wedi eu difyrru gan y cor.
Mae’r cor wedi cymeryd rhan yn Carnegie Hall, gyda Bryn Terfel, ac hefyd yn Roy Thompson Hall fel rhan o’r “Olympic Bid” yn 2005. Bu’r cor yn llwyddiannus hyd y rheng derfynnol yn y “CBC Choral Festival.
Dewch a mwynhewch y cor mewn cyngerdd neu ar ol cyngerdd mewn “afterglow” (mewn tafarn ger llaw fel arfer). Nid yw oedran yn bwysig iawn. ‘Rydym wedi cael cantorion mor ifanc a 16, ac mor hen a 96. Dywedant fod canu yn beth da i’r iechyd. Deuwch ac ymunwch a ni. Fe fydd y cor yn ddiolchgar iawn am unrhyw gyfraniad ariannol.